To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

Dogfennau i’w lawrlwytho

Cyfarwyddyd

Cyngor oddi wrth yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. (Saesneg).

Cyngor ar Weinyddu’r Cymun Bendigaid yn ystod pandemig o’r ffliw. (Saesneg).

Cylchlythyr Gwasanaeth Cynghori Cyfreithiol yr Eglwysi. PDF | DOC. (Saesneg).

Adnoddau

Gweddïau cyn ac yn ystod pandemig. PDF | DOC. (Saesneg).

FFLIW’R MOCH

H1N1 Swine Flu Virus.  Picture courtesy of Wikipedia

Mae’r sefyllfa fydeang parthed lledaeniad ffliw, ac yn enwedig A/H1N1 (“Ffliw’r Moch”), yn peri pryder i lawer.

Cyfarwyddyd i Eglwysi
 Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Llywodraeth, trwy ei Hadran Cymunedau a Llywodraeth Leol, gyfarwyddyd – a ysgrifennwyd mewn ymgynghoriad â chynrychiolwyr cymunedau ffydd – ar effeithiau posibl pandemig ar weithgareddau cymunedau ffydd, a sut y gallent gynnal cymunedau ehangach pe digwyddai hynny. Dosbarthodd esgobion yr Eglwys yng Nghymru y cyfarwyddyd hwn i bob clerig, ynghyd â chyngor penodol a gweddïau i’w defnyddio’n bersonol ac ar goedd yn yr eglwys yn ystod y pandemig. Mae’r esgobion wedi diweddaru ac ailddosbarthu eu cyngor i’r plwyfi ers cyfarfod 16-17 Medi 2009 o’r Corff Llywodraethol.

Gofynnwyd i bob plwyf ystyried sut orau i ymateb i’r sefyllfa bresennol gan gymryd i ystyriaeth y cyngor diweddaraf oddi wrth y Llywodraeth a’u hesgob a’r cyd-destun/sefyllfa leol. Er enghraifft, wrth weinyddu’r Cymun Bendigaid yng nghyfarfod y Corff Llywodraethol ar 17 Medi, rhoddwyd dewis i’r aelodau i dderbyn y bara a’r gwin neu ddim ond y bara. Defnyddiwyd hylif golchi dwylo gwrth-facteria gan bawb yr oedd a wnelont â gweinyddu’r elfennau. Mae Mainc yr Esgobion yn adolygu’r sefyllfa’n gyson, a rhoddir cyfarwyddyd newydd i blwyfi fel y bydd y sefyllfa’n newid.

Gellir lawrlwytho’r holl adnoddau ar y pwnc hwn drwy ddefnyddio’r dolennau ar y chwith.

Heading

Dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Morbi commodo, ipsum sed pharetra gravida, orci magna rhoncus neque, id pulvinar odio lorem non turpis.

Sub-heading

Sed aliquam, nu eget euismod ullamcorper, lectus nunc ullamcorper orci, fermentum bibendum enim nibh eget ipsum. Donec porttitor ligula eu dolor. Maecenas vitae nulla consequat libero cursus venenatis.