Croeso i Canolfan st seiriol i feithrin disgyblion a gweinidogaeth

Mae Canolfan St Seiriol yn darparu ystod o hyfforddiant ac addysg oedolion i eglwysi Gogledd Orllewin Cymru.Addysg yw Archwilio Ffydd ar gyfer cwrs Disgyblaeth, i bobl ddysgu mwy am eu ffydd yn ogystal â hyfforddi ar gyfer gweinidogaethau achrededig. Mae hon yn rhaglen syml a hygyrch, wedi ei hanelu at gynorthwyo Cristnogion chwilfrydig i ddarganfod mwy am eu ffydd yn y lle y maent yn byw.
Mae Archwilio Ffydd yn cael ei ddilysu’n allanol. Mae hyn yn golygu y gellir rhoi’r credydau Prifysgol a gesglir ar y cyrsiau Archwilio Ffydd tuag at Ddiploma neu hyd yn oed gymwysterau gradd.
Mae rhai pobl yn defnyddio cyrsiau Archwilio Ffydd yn rhan o’u hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth gyhoeddus. Gellir cyfrif credydau Archwilio Ffydd tuag at Weinidogaeth Darllenydd Anglicanaidd neu tuag at ordeiniad yn yr Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Fethodistaidd. Mae’r Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru hefyd yn cymryd rhan yn Canolfan St Seiriol.
Mae MINICAB hefyd yn gyfrifol am Addysg Weinidogaethol Barhaus (AWB /CME) clerigion a’r Addysg Weinidogaethol Barhaus Gychwynnol (AWBG / ICME) y rhai sydd wedi eu hordeinio’n ddiweddar yn Esgobaeth Bangor.

