To Church in Wales home page

Esgobaeth
Bangor

Siop Lyrau'r Gadeirlan

digwyddiadau A gwasanaethau YN Y GADEIRLAN

Rhestr gwasanaethau misol

 

 

GWASANAETHAU

Dydd Sul

08:00 HOLY EUCHARIST

09:45 OFFEREN SANCTAIDD

11:00 CHORAL EUCHARIST

15:15 CHORAL EVENSONG

Dydd Llun
10:30OFFEREN SANCTAIDD
HOLY EUCHARIST

Dydd Mawrth
10:30 OFFEREN SANCTAIDD
HOLY EUCHARIST

17:30 CHORAL EVENSONG

Dydd Mercher
10:30 OFFEREN SANCTAIDD
HOLY EUCHARIST

Dydd Iau
10:30 OFFEREN SANCTAIDD
HOLY EUCHARIST

17:30 CHORAL EVENSONG

Dydd Gwener
10:30 OFFEREN SANCTAIDD
HOLY EUCHARIST

Dydd Sadwrn
10:30 - 13:00 Cadeirlan ar agor

 

Cadeirlan Bangor - Croeso

Sefydlwyd Eglwys Gadeiriol Bangor - Mam Eglwys yr Esgobaeth - gan Deiniol Sant c.525. Dyma un o'r hynaf o'r sefydliadau Cristnogol a ddefnyddiwyd yn ddifwlch ym Mhrydain Fawr.

O wiail a chlai yr adeiladwyd yr eglwys wreiddiol, a chodwyd yr adeilad cyntaf mewn carreg gan y Normaniaid yn y 12ed ganrif. Dechreuwyd ar yr adeilad presennol tua chanol y 13 ganrif. Y Gadeirlan yw'r unig adeilad ym Mangor sydd wedi gwrthsefyll holl gyfnewidiadau'r canrifoedd, ac erys yn rhan bwysig o'n treftadaeth yn y ddinas ac yng Ngwynedd.

outside view

Er mai bechan yw Bangor o'i chymharu â llawer o eglwysi cadeiriol Lloegr, mae i'r Gadeirlan ei swyn a'i hapêl arbennig, fel y tystia sylwadau nifer o'r ymwelwyr. Diolchwn am ein hetifeddiaeth a gwnawn yn fawr o'r fraint o barhau'r traddodiad, canrifoedd oed, o addoli Duw yn y fangre sanctaidd hon. Hyderwn y bydd awyrgylch hyfryd a thawel y Gadeirlan yn dwyn iachad i enaid pob ymwelwr fel y bydd y profiad yn gysur ac yn ysbrydoliaeth iddynt oll yn y dyfodol.

main door view

Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant DATGANIAD CENHADOL

Tŷ Duw yw’r Gadeirlan, mae’n lle sanctaidd.
Mae’r Gadeirlan yn lle sydd wedi ei neilltuo ar gyfer addoli Duw: yr ydym yn gwneud ein gorau glas i osod safonau o ragoriaeth mewn cylch cyson o ogoniant, ffynhonnell pob harddwch.
Y Gadeirlan yw ‘cathedra’ neu sedd yr Esgob, y sedd y bydd yn eistedd ynddi tra mae’n cynnig diolchgarwch ‘Ewcharist’ a dysgu’r Ffydd Gristnogol: yr ydym yn ceisio ar air a gweithred, i ddatgan gwirionedd yr Efengyl.
Mam eglwys yr Esgobaeth yw’r Gadeirlan: yr ydym yn ceisio ei gwneud yn ganolfan ddeinamig i fywyd yr Esgobaeth.
Mae’r Gadeirlan yn bererinfan lle gall pobl gyfarfod â Duw: yr ydym yn ceisio darparu gweinidogaeth sy’n groesawgar; un sy’n gwrando a chyfarfod â phob un sy’n dod yma.

main door view

Mae’r Gadeirlan yn lle canolog i efengylu a chyrraedd at bobl: yr ydym yn ceisio mynd allan yn enw Duw i dystiolaethu i’w gariad a’i ddaioni sydd ar gyfer pawb o bobl y byd.
Mae pawb sy’n gweithio yma yn cynorthwyo i sicrhau hyn, ond trwy ein nerth ein hunain ni allwn gyflawni yr un dim o’r pethau hyn, felly yn gyntaf gofynnwn i Dduw ddeffro’n cydwybod â’i sancteiddrwydd, maethu ein meddwl â’i wirionedd, puro ein dychymyg â’i brydferthwch, agor ein calon i’w gariad, a rhoi ein hewyllys o'r neilltu er mwyn cyflawni ei bwrpas Ef.