To Church in Wales home page

Esgobaeth
Bangor

YR organ

Mewn cywydd o waith Gruffudd Gryg y ceir y cyfeiriad cynharaf at organ yn yr Eglwys Gadeiriol; rywdro rhwng 1350 a 1370 gwelodd ef organ newydd yn cyrraedd, a phawb o'r plwy yn rhoi offrwm tuag ati.

organ

Yng nghyfnod Esgob Rowlands (1598 - 1616) gwnaed trefniadau i dalu cyflog i organydd. Fodd bynnag, yng nghyfnod yr esgob dilynol - Lewis Bayly - cawn fod yr organydd, Thomas Boulton, yn cwyno nad oedd ei gyflog yn cael ei dalu.

Yn ystod y werinlywodraeth (1649 - 60) naill ai fe symudwyd yr organ ymaith neu fe'i dinistriwyd yn unol â Gorchymyn y Senedd 'for the speedy demolition of all organs, images and all matters of superstitious monuments in all cathedrals...throughout the kingdom of England and the dominion of Wales.'

organ

Pan adferwyd Siarl II i'r orsedd yn 1660, gyda'r £100 a adawodd Esgob William Roberts yn ei ewyllys cafwyd organ newydd, a thalodd ei olynydd, Robert Morgan, am ei gosod. Ar gas yr organ yr oedd pennill Lladin yn cymharu'r ddau esgob, a ddarparodd yr arian a gosod yr organ, i Ddafydd a Solomon.

Yn 1779 gosodwyd offeryn newydd. Costiodd 360 gini, ac fe'i gwnaed gan Samuel Green, prif saer organau y dydd. Defnyddid hon yn gyson nes cafwyd yr organ bresennol, a luniwyd gan un o brif benseiri organau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg - William Hill; fe'i gosodwyd yn 1873.

Mae'r organ yn un o'r rhai gorau yn Ynysoedd Prydain, ac yn ased unigryw I Ogledd Cymru. Mae'n offeryn ysblennydd, gyda phedwar chwaraefwrdd. Gosodwyd cyflenwad o 4210 pibau yn 1873 gan un o gwmniau adeiladu organ enwocaf y dydd, sef William Hill, gydag ychwanegiadau yn gilyn gan yr un cwmni yn 1897.

organ

Adgyweiriwyd ym 1954 ac ailadeiladwyd hi gan John Compton, ac ers hynny, defnyddir hi yn ddyddiol. Mae myfyrwyr niferus wedi elwa ar astudio wrth yr offeryn hwn ac y mae organyddion nodedig o bob cwr o'r byd wedi ymweld a Chadeirlan Bangor er mwyn cael cyfle i chwarae'r organ a rhoddi cyngherddau cyhoeddus.