To Church in Wales home page

Esgobaeth
Bangor

Heading

Dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Morbi commodo, ipsum sed pharetra gravida, orci magna rhoncus neque, id pulvinar odio lorem non turpis.

Sub-heading

Sed aliquam, nu eget euismod ullamcorper, lectus nunc ullamcorper orci, fermentum bibendum enim nibh eget ipsum. Donec porttitor ligula eu dolor. Maecenas vitae nulla consequat libero cursus venenatis.

Pontiffical Bangor

Gall Bangor ymfalchïo yn ei llyfrgell gyfoethog ac amrywiol. Ei thrysor pennaf yw Pontiffical Esgob Anian sy'n perthyn i flynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar ddeg. Ysgrifennwyd ef ar felwm gyda haen o aur yn y darluniadau ac addurn ymylol mewn glas, gwyrdd a du.

Llyfr yn cynnwys testun y seremonïau litwrgaidd y bydd esgobion yn eu perfformio yw pontiffical, fel ordeinio, bendithio, conffyrmio, a chysegru eglwysi. Y mae'r rhain i gyd yn Llyfr Esgob Anian; cynhwysai bron y cyfan a oedd yn angenrheidiol ar gyfer swyddogaethau cyhoeddus esgob, ynghyda'r gerddoriaeth briodol, wedi ei gosod yn nodiant safonol y cyfnod ar bedair llinell.

pontifical

Y mae iddo hanes diddorol; llwyddodd i osgoi difrod rhyfel, mae'n debyg trwy gael ei symud i ddiogelwch pan oedd pergyl yn agos. Fe'i collwyd ar ôl gwrthryfel Glyndwr yn 1402 ond fe'i dychwelwyd i'r Eglwys Gadeiriol gan Esgob Ednam yn 1485. Wedi gorchmynion Edward VI fod llyfrau gwasanaeth Eglwys Rufain i'w dinistrio, rhaid bod y Pontiffical wedi cael lloches breifat. Y mae'n bosibl fod a wnelo Rowland Meyrick, esgob Bangor 1559 - 66, rywbeth â hyn, ond fe wyddom iddo gael ei gyflwyno i'r Eglwys Gadeiriol gan Esgob Humphreys yn 1701.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd loches, gyda rhai o drysorau hanesyddol pwysicaf Prydain, yn y twnelau dan y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Dychwelodd am y tro olaf 11 Ebrill 1946.

Er diogelwch cedwir Llyfr Esgob Anian yn awr yn Llyfrgell Prifysgol Cymru Bangor.