To Church in Wales home page

Esgobaeth
Bangor

Croes orymdeithiol i gadeirlan bangor - er cof archddiacon elwyn.

 

left-floated image blwyddyn wedi mynd heibio ers marwolaeth Archddiacon Elwyn, fe benderfynodd y teulu roi Croes Orymdeithiol yn rhodd i Gadeirlan Bangor er cof amdano ac i ddiolch am ei fywyd a’i waith diflino ers 1955 fel offeiriad, darlithydd ac Archddiacon. Fe gafodd y Groes Geltaidd ei bendithio gan yr Esgob y Gwir Barchedig Andrew John yn ystod y Cymun Corawl ar fore Sul y Pasg Ebrill 4.

Wedi ei engrafio ar gefn y Groes mae’r canlynol: “Er cof am Elwyn Roberts M.A. Archddiacon Meirionnydd 1983-1986, Archddiacon Bangor 1986-1999”.

 

 


Y Barch Ddr Sue Jones, Helen Lincoln, Ian Eyre, Esgob Andrew, Eiflyn, Sioned, Llinos, Deon Alun Hawkins