To Church in Wales home page

Esgobaeth
Bangor

Yr Esgob Andrew John yn dathlu ymroddiad a llwyddiant gogoneddus gyda phlwyf LlanfairMathafarnEithaf, ynys môn.

left-floated imageDdydd Mawrth 3ydd Awst dathlodd yr Esgob Andrew John y Cymun Bendigaid gyda Christnogion o blwyf LlanfairMathafarnEithaf. Achlysur ydoedd i nodi llwyddiant mawr y plwyfi i oresgyn anawsterau ariannol y buont yn eu hwynebu.

Cyflwynodd yr Esgob Andy dystysgrif i’r trysorydd, y wardeiniaid a’r Rheithor a dywedodd: rwyf yn gobeithio’n fawr iawn y bydd eglwysi a phlwyfi yn gweld waeth pa mor fawr y mae’r heriau’n ymddangos, gellir eu goresgyn gydag ymroddiad ac ymrwymiad. Cefais argraff eithriadol o dda oddi wrth yr hyn a welais yma ac rwyf yn ei argymell yn batrwm i eraill.