Ymweliad yr Esgob â Rheilffordd Ucheldir Cymru
Ymwelodd yr Esgob Andy John â Rheilffordd Ucheldir Cymru a thaith Rheilffordd Pothmadog - Blaenau Ffestiniog ddydd Iau diwethaf (16eg Hydref, 2009). Daw’r cwmni ag oddeutu £10 miliwn i’r economi leol ac mae’n cyflogi 60 o bobl lawer ohonynt wedi ennill sgiliau’n lleol. Mae’n hanes o lwyddiant Gogledd Cymru ac roedd yr Esgob yn falch o fod yno’n cydnabod hynny.
Soniodd yr Esgob ei fod yn edrych ymlaen yn fawr iawn at fendithio cam nesaf y lein y disgwylir iddi agor un ai’r flwyddyn nesaf neu yn 2011.

