Gweinidogaeth
Mae pawb yn cael eu galw
Mae pob Cristion yn cael ei alw gan Dduw. Fe’n gelwir i fod yn ddisgyblion i Iesu ac i barhau ei genhadaeth i’r byd. Gelwir rhai i weinidogaethau arbennig yn yr eglwys, i fod yn ddiaconiaid, offeiriaid, esgobion, mynaich, lleianod, efengylwyr, darllenwyr, gweinidogion ewcharistaidd lleyg, neu i nifer o wahanol weinidogaethau eraill.
Galwodd Duw chwi wrth eich enw a’ch gwneud yn eiddo iddo’i hun.
Fe gewch fwy o wybodaeth yn y taflenni ar ochr chwith y dudalen hon y gellir eu llwytho i lawr.
Os teimlwch y gall fod Duw yn eich galw, gwrandewch ar Dduw a siaradwch ag ef. Siaradwch hefyd â’r rhai sy’n eich adnabod yn dda ac â’ch offeiriad plwyf neu eich caplan. Os teimlwch y gall fod Duw yn galw rhywrai yr ydych yn eu hadnabod, gweddïwch drostynt a siaradwch â hwy.

