Bywyd yr Eglwys
Bydd yr adran hon yn dweud ychydig mwy am beth sy’n digwydd yn yr esgobaeth. Cliciwch ar y cysylltiadau uchod i ddysgu mwy:
Mentro mewn Cenhadaeth yw cyfeiriad esgobaethol Tyddewi. Er 2005, rydym ni fel esgobaeth wedi ymrwymo i’r ffordd gyffredin hon o addoli, gweithio a thystiolaethu.
DCMM Mae bywyd a gweinidogaeth Esgobaeth Tyddewi’n cael ei amlygu mewn nifer o ffyrdd yn lleol ac ar lefel yr esgobaeth. Fel sefydliad, rydym yn cyfarfod â’n gilydd fel Cyngor Cenhadaeth a Gweinidogaeth Esgobaethol (DCMM) lle mae pob agwedd o fywyd yr eglwys yn cael ei chynrychioli. Mae’r cyngor yn gweithio er mwyn hyrwyddo a darparu adnoddau i fywyd yr eglwys ar bob lefel.
Ysgolion Eglwys Mae 34 o ysgolion eglwys yn Esgobaeth Tyddewi. Mae 9 yn Ysgolion Gwirfoddol dan Gymorth a 25 yn Ysgolion Gwirfoddol dan Reolaeth.
Pobl Dewi yw Papur Newydd yr Esgobaeth. Bydd yr adran hon yn cynnwys manylion ar gyflwyno deunydd, yn ogystal â detholiad o erthyglau i’w darllen arlein.
Gweinidogaeth - Mae gweinidogaeth Eglwys Dduw’n cael ei ymarfer gan bob aelod bedyddiedig o’r Eglwys yn yr esgobaeth hon. Mae’r rhai o’r bobl hyn wedi cael eu galw i’r weinidogaeth ordeiniedig - clerigwyr cyflogedig neu ddigyflog. Mae pobl hefyd sy’n ymarfer gweinidogaeth gyda chaniatâd i weinyddu gan yr Esgob. Mae gennym hefyd nifer o weinidogaethau digyflog, yn Ddarllenwyr Lleyg, Arweinwyr Addoliad, Cynorthwywyr Bugeiliol, Cynorthwywyr Cymunol Bugeiliol a Chynorthwywyr Cymunol. Rydym yn ymroddedig i annog pawb i wireddu ac i ymarfer eu galwad Cristnogol.

