To Church in Wales home page

Esgobaeth
Tyddewi
Mentro Mewn Cenhadaeth

Gwefannau gwybodaeth bellach a newyddion:

Sefyliad Masnach Deg – www.fairtrade.org.uk

 

Traidcraft ccc

www.traidcraft.co.uk
www.fairtradewales.com
www.masnachdegcymru.com

fairtrade logo

Statws MASNACH DEG i Esgobaeth Tyddewi!

Derbyniodd Esgobaeth Tyddewi Dystysgrif Esgobaeth Masnach Deg gan y sefydliad Masnach Deg.

Addawodd mwy na 60% o Eglwysi’r esgobaeth hon gefnogi a hybu defnydd a gwerthiant cynnyrch Masnach Deg a hefyd weini ond tê a choffi Masnach Deg yn eu cyfarfodydd a’u digwyddiadau.

Fair Trade certificate

Daeth Masnach Deg i fod yn rhan naturiol o dystiolaeth Gristionogol cynulleidfaoedd ledled yr esgobaeth hon.   Mae bod yn Eglwys Fasnach Deg yn ffordd ymarferol o geisio sicrhau fod y bobl y dibynnwn arnynt am ein anghenion dyddiol yn derbyn pris teg am eu llafur. Dylai’r tê a’r coffi sydd ar gael yn ein digwyddiadau eglwysig fod yn arwydd clir o’n hawydd i weld tegwch i ffermwyr a chynhyrchwyr yn gyffredinol.

Mae dewis eang o nwyddau Masnach Deg ar gael mewn amryw fannau a, lle bynnag y prynwn, dynoda’r marc arbennig sydd ar y cynnyrch fod y ffermwr neu’r tyfwr wedi derbyn pris teg.

Os yw eich eglwys chi yn un o’r nifer cynyddol o Eglwysi Masnach Deg, rhowch wybod, os gwelwch yn dda, beth sydd ar waith o ran hybu Masnach Deg yn eich ardal chi.
Cysylltwch â sddft07@yahoo.co.uk

A oes yna Fasnachydd Teg cofrestredig yn eich cynulleidfa?
Os na, a wnaethoch chi ystyried y peth?