Plant Dewi
– rhoi Ffydd ar Waith a meithrin cymuned fwy cynhwysol
Mae Tîm Datblygu Cymunedol Plant Dewi’n gweithio mewn plwyfi ledled yr Esgobaeth i rymuso pobl leol i ofalu mewn modd ymarferol am y teuluoedd, y plant a’r bobl ifanc o’u cwmpas.

Yr Esgob Carl yn agor canolfan deulu newydd yn Felinfoel, Llanelli – prosiect Plant Dewi
Mae Cristnogion yn ymroddedig i ofalu am bob plentyn a phob person, i feithrin lles pob teulu ac i gryfhau cymunedau. Mae Cariad Duw a gofalu am gymdogion yn mynd law yn llaw i siapio bywydau a chymunedau.
Yn y ffordd yma mae Plant Dewi’n cefnogi teuluoedd o grud i grud:
- Rydym yn helpu teuluoedd dan straen ac yn meithrin perthnasoedd teuluol cadarnhaol.
- Rydym yn creu rhwydwaith ofalgar o gyfeillgarwch a chefnogaeth drwy ddod â theuluoedd unig at ei gilydd yn adeiladau’r Eglwys.
- Rydym yn cefnogi’r teuluoedd hynny sy’n anodd eu cyrraedd ac sy’n cael eu heithrio rhag defnyddio gwasanaethau.
- Rydym yn annog tadau i chwarae rhan ymarferol ym mywydau eu plant ac i fwynhau bod yn Dad.
- Rydym yn sefydlu canolfannau sy’n cynnig cefnogaeth i deuluoedd neu fannau diogel i bobl ifanc gwrdd drwy annog ymddiriedaeth rhwng pobl a’i gilydd a grymuso cyfranogiad yn y gymuned.
- Rydym yn gweithio mewn ysgolion gan ddarparu clybiau Cristnogol amser cinio.
- Rydym yn cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan ymarferol yn eu cymunedau drwy greu, er enghraifft, prosiectau garddio a llochesi pobl ifanc..
- Rydym yn gwrando ar bobl ifanc ac yn eu cefnogi yn y defnydd o dechnoleg i gynhyrchu fideos, DVDau neu slotiau radio i ganiatáu iddynt gyrraedd pobl ifanc eraill i drafod materion sy’n achos pryder yn eu bywydau.
- Rydym yn cefnogi ieuenctid yn eu harddegau sy’n dod yn rhieni i fwynhau eu rôl ofalu newydd.
Nodweddir gwaith Plant Dewi gan gydraddoldeb i bawb, yn gwasanaethu anghenion cymunedau lleol ac yn adeiladu perthnasoedd iach a hirhoedlog rhwng unigolion, grwpiau, cymunedau ac yn wir yr esgobaeth gyfan
Esgob Carl, Adroddiad Blynyddol, Plant Dewi

