ANFON LLUNIAU AT POBL DEWI
Maen nhw’n dweud fod llun gwerth 10,000 o eiriau; ond mae’r gwerth hwnnw’n gostwng yn sylweddol os nad yw ansawdd y llun cystal ag y gallai fod. Felly sut ydych chi’n gwneud yn siŵr fod eich llun yn cael yr effaith gorau posibl – neu hyd yn oed yn cael ei gyhoeddi o gwbwl?
- Ar y cyfan mae pobl yn fwy diddorol na phethau. Pobl yn gwneud pethau sy’n edrych orau.
- Y lleiaf o bobl y gorau. Mae ceisio stwffio gormod o wynebau mewn llun yn golygu eu bod i gyd yn diweddu i fyny fel blobiau na ellir eu hadnabod.
- Ewch mor agos â phosibl at y gwrthrych, heb dorri unrhyw ddarnau hanfodol allan. Ond rhowch ddigon o le uwch eu pennau, neu bydd pobl yn edrych fel petaent yn taro’u pennau ar dop y ffrâm.
- Mae lluniau wedi’u hôl-oleuo ar y cyfan yn fflat ac yn ddifywyd; felly peidiwch â saethu’n syth i mewn i’r haul neu’n edrych tuag at ffenestr.
- Ar y llaw arall, peidiwch â gofyn i bobl edrych yn syth at yr haul; byddan nhw’n fwy cyffyrddus – a’r llun yn llawer gwell – os bydd yr haul i un ochr ohono.
- Y rheswm dros y rhan fwyaf o luniau aneglur yw ysgwyd y camera. Os nad ydych yn defnyddio treipod, ceisiwch bwyso yn erbyn rhywbeth solet – a chofiwch wasgu’r botwm ac nid ei bwyso’n wyllt.
- Gofalwch rhag ‘lygaid coch’ os ydych yn defnyddio fflach gosod. Erbyn hyn mae gan y rhan fwyaf o gamerâu osodiad arbennig i wrthwneud yr effaith hwn.
- Wrth dynnu llun o ddau berson (mewn cyflwyniad, er enghraifft), ceisiwch osgoi eu dangos mewn proffil yn ormodol. Gofynnwch iddyn nhw edrych arnoch chi, neu newidiwch eich lleoliad er mwyn i un ohonynt ddangos mwy o wyneb llawn. A cheisiwch osgoi’r broblem twll yn y canol drwy eu cael i sefyll yn agos at ei gilydd.
- Bydd camerâu â ffocws awtomatig fel arfer yn dilyn canol y llun. Os nad yw’r rhan o’r gwrthrych yr ydych am ei gael yn y ffocws mwyaf siarp yn mynd i fod yng nghanol y llun fel yr ydych am ei fframio, gallwch ‘dwyllo’’r rhan fwyaf o gamerâu drwy roi’r prif wrthrych yng nghanol y ffrâm, hanner pwyso’r botwm w, ei ail-fframio fel y dymunwch, ac yna pwyso’r botwm i lawr weddill y ffordd.
- Cofiwch sylw beth sydd y tu ôl i’r gwrthrych. Dydych chi ddim eisiau i ddarllenwyr fethu’r pwynt oherwydd bod y cefndir yn rhy brysur – neu’n rhy ddiddorol!
- Os yw’ch camera’n defnyddio ffilm, gosodwch gyflymdra’r shutter mor uchel â phosibl dan yr amgylchiadau golau sy’n bodoli. Drwy wneud hynny byddwch yn isafu faint fydd y camera’n ysgwyd ac yn cynyddu dyfnder y ffocws.
- Gosodwch gamera digidol i’r ansawdd gorau posibl er mwyn i’ch lluniau fod yn siarp ac yn fanwl. Gall golygyddion llunio weithio gwyrthiau, ond all neb adfer manylion nad ydynt yno yn y lle cyntaf!
- Wrth drosglwyddo’ch lluniau digidol i’ch cyfrifiadur, cadwch y cydraniad (yr ansawdd) mor uchel â phosibl. Os bydd rhaglen yn rhoi dewis i chi o We neu Argraffu, dyweder, dewiswch Argraffu.
- Os ydych wedi cymryd llun gyda chamera digidol, anfonwch ef atom yn ddigidol; os anfonwch chi lun wedi’i argraffu a bod rhaid i ni ei sganio, mae ansawdd yn dioddef heb angen. Os yw maint y ffeil yn 2MB neu lai, ebostiwch at editorpd@churchinwales.org.uk. Gallwch losgi ffeiliau mwy ar CD a’i anfon gyda llythyr esbonio at Pobl Dewi, Swyddfa Esgobaeth Tyddewi, Abergwili, Caerfyrddin, SA31 2JG.
- Mae’n debyg y bydd eich camera digidol yn cadw’r llun naill ai ar fformat JPEG (‘rhywbeth.jpg’) neu TIFF (‘rhywbeth.tif’). Mae unrhyw un yn addas i’w anfon ymlaen atom, ond os oes rhaid i chi olygu JPEG, cadwch ef dan enw ffeil newydd, neu byddwch yn colli ansawdd y gwreiddiol.
- Wrth anfon print sy’n dod o ffilm, gwnewch hwnnw’n faint addas fel 150 x 100 mm neu ragor. Wrth wneud hynny, fyddwch chi ddim yn colli gormod o’r manylion pan fyddwn yn ei sganio.
- Gwnewch yn siŵr ein bod ni’n gwybod beth sydd yn y llun. Os ydych chi’n anfon llun o’ch ficer yn abseilio i lawr tŵr yr eglwys, dywedwch hynny yn yr ebost ddaw gyda’r llun – a rhowch enw ystyrlon i’r ffeil meis Ficer yn Abseilio yn hytrach na IMG000457.jpg.
- Os ydych chi’n anfon print i mewn, rhowch label arno ond peidiwch ag ysgrifennu ar y cefn – oni bai eich bod am i’r darllenwyr weld eich nodyn at y Golygydd wedi’i ysgrifennu am yn ôl ar draws y llun a gyhoeddir. Yn lle hynny, ysgrifennwch ar label gludiog a’i osod ar gefn y print.
Os byddwch yn dilyn y cyngor hwn byddwch yn gwneud y gorau o’ch siawns i gael cyhoeddi’r llun - er na allwn warantu i chi y bydd eich llun yn ymddangos mewn print. Os na fydd, peidiwch â digalonni: efallai mai rhywbeth digon syml sydd y tu cefn i hynny megis y diffyg gofod sydd wedi’n gorfodi, er yn amharod, i adael eich campwaith allan.
Mwynhewch dynnu lluniau!

