EGLWYS GADEIRIOL TY DDEWI
Eglwys Gadeiriol Tyddewi: Eicon Treftadaeth Cristnogol y Cymry; Mam Eglwys Esgobaeth Tyddewi; Creirfa Cenedl y Cymry; cartref cymuned ffydd sydd yn cynnal addoliad beunyddiol; yn croesawu ymwelwyr a phererinion; yn cynnig gweinidogaeth sydd yn bugeilio, gofalu, iacháu ac ail-greu.
Ymgeisia’r Eglwys Gadeiriol fod yn ganolfan rhagoriaeth, drwy amlygu gwerthoedd craidd Menter yr Esgobaeth mewn Cenhadaeth.
Er bod y safle yn hen, dros bymtheg canrif y mae wedi newid droeon ac y mae’n dal i ddwyn tystiolaeth nid yn unig i bresenoldeb digyfnewid Duw mewn byd cyfnewidiol, ond hefyd i ymdrechion Cristnogion, dros hanes, yn y lle hwn, i fynegu eu profiad o Dduw yn eu cenhedlaeth hwythau.

Dyhead yr Eglwys Gadeiriol yw cyhoeddi’r Efengyl yn y byd cyfoes, ac felly y mae’n ceisio bod yn fan i ragori, arloesi a herio ynddo er mwyn hybu mynegiant mewn tŵf ysbrydol, efengylu, a litwrgi.
Lle ydyw sydd yn dathlu dawn greadigol dynoliaeth, yn enwedig drwy’r celfyddydau gweledol, ac yn arbennig drwy cerddoriaeth, er mwyn hybu tŵf a datbygiad drwy annog yr ymdeimlad o alwedigaeth ym mhawb.
O’r cychwyn cyntaf, bu’r Eglwys Gadeiriol yn gyrchfan pererinion sydd yn cydnabod y lle hwn fel man arbennig, cyfareddol, sanctaidd, ac y mae llawer bardd wedi canu cerddi i Ddewi ac i Dyddewi.
Yn y byd sydd ohono, y mae Cadeirlan Dewi yn anad dim yn dal i fod yn dy gweddi; yn dal i gynnig gofod sanctaidd; yn dal i gymell tŵf a gonestrwydd personol mewn cyd-destun lle mae dynion wedi teimlo presenoldeb Duw drwy’r canrifoedd.
Lle ydyw hefyd sydd yn cynnig cyfle i ddysgu ac addysgu, nid yn unig am dreftadaeth ond am bwysigrywdd Cristnogaeth yn y byd sydd ohono.
Yn y gofod a’r llonyddwch a gynnigir yn y man arbennig hwn, gall y disgybl hwnnw sydd yn byw bywyd dan bwysau beunyddiol ddarganfod perspectif ac esboniad newydd ar fywyd.

