To Church in Wales home page

Esgobaeth
Tyddewi
Mentro Mewn Cenhadaeth

 

Twristiaeth
- annog ymweliadau gan ysgolion a grwpiau

Mae’r rhestr ganlynol yn darparu syniadau am sut i annog grwpiau ysgolion ac eraill i ymweld á’ch eglwys.

  • Mae adran addysg eich awdurdod lleol yn darparu ‘bag post’ wythnosol i’r holl ysgolion yn eich ardal – gofynnwch a am gael anfon gwybodaeth i’r ysgolion ynddo.
  • Bydd gan eich llyfrgell leol gyfarwyddiadur o o holl grwpiau a chymdeithasau’r ardal, gan gynnwys scowtiaid,/ guides, mudiadau’r urdd a’r ffermwyr ifanc ayyb
  • Lluniwch boster a thaflen wybodaeth am ymweliadau i blant a gwasgarwch hwy mor helaeth ag y medrwch – defnyddiwch ‘nhw fel taflenni a’u hanfon i ysgolion a’u harddangos   mewn swyddfeydd post lleol, canolfannau gwybodaeth twristiaid, llyfrgelloedd ac eglwysi eraill ayyb
  • Gwahoddwch y Maer lleol a phobl adnabyddus eraill i gymeryd rhan mewn digwyddiadau i godi arian i achosion da  - dringo’r tŵr,  er enghraifft, os oes gennych chi un.   Gwahoddwch y wasg a dweud fod ymweliadau grwp ar gael. Gallwch wneud hyn  er mwyn cyhoeddusrwydd gyda phob Maer newydd a phan fo tymor yr hâf yn cychwyn.
  • Tynnwch yr ymwelwyr i mewn i’r hysbysebu – rhowch gopiau o bosteri iddynt i’w harddangos yn y mannau lle y maen ‘nhw’n cyfarfod.
  •  Sicrhewch eich bod yn mynd i gysylltiad â’r grwpiau hyn o leiaf unwaith y flwyddyn i’w hatgoffa am eich bodolaeth – mae taflenni’n aml yn mynd ar grwydr ac yn cael eu colli