CORFF LLYWODRAETHOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU
Yn Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, ar Ddydd Mercher a Dydd Iau 22 a 23 Medi 2010.
Agenda - Diwrnod 1
Cinio 12:15
- Gweddïau a Darlleniad o’r Beibl13:30
- Tystir bod Mandat y Llywydd wedi’i weithredu’n briodol
- Cofnodion y Cyfarfod Cyffredin o’r Corff Llywodraethol a gynhaliwyd ar 14 a 15 Ebrill 2010
- Materion yn codi o’r Cofnodion (os bydd rhai)
- Croesawu cynrychiolwyr Cytûn ac eglwysi eraill
- Anerchiad y Llywydd
- Adroddiad y Pwyllgor Sefydlog
- Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr yn cynnwys y Cyfrifon am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2009
-
Cynnig: Cymeradwyo Adroddiad Corff y Cynrychiolwyr.
- Sialens, Newid a Chyfle
-
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol yn cymryd sylw o’r adroddiad ac yn gofyn i’r Pwyllgor Sefydlog a Mainc yr Esgobion ymateb i’r sefyllfa a ddisgrifir yn yr ystadegau hyn.
- ‘Cenhadaeth mewn Cymundeb Heddiw’ – anerchiad gan y Gwir Barchedig Michael Doe, Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas Unedig er Lledaenu’r Efengyl: Anglicaniaid mewn Cenhadaeth Fyd
- Cyflwyniad ar Fuddsoddi Moesegol
- Amser Cwestiynau
Cinio at 1830
Hwyrol Weddi (Capel) at 2000
Day 2
Gweinyddu’r Cymun Bendigaid (Capel) at 0730
Breakfast at 0800 - 0900
- Yr Eglwys yng Nghymru yn 2020 – Trafodaeth mewn grwpiau 0930
- Sicrwydd Ynni – Cyflwyniad gan Mr Peter Davies OBE (Comisiynydd Datblygu Ynni Cynaliadwy Cymru)
-
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol yn cydnabod y bygythiad cynyddol i’r cronfeydd ynni cynaliadwy ac:
- (a) yn galw ar lywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu ar frys i sicrhau y parheir i ddatblygu a llwyr weithredu strategaethau tymor hir i sicrhau cyflenwadau priodol a chynaliadwy o ynni;
- (b) yn galw ar aelodau’r Eglwys yng Nghymru i annog a mabwysiadu ffyrdd o leihau eu defnydd personol o ynni.
- Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol
-
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol:
- (a) yn cefnogi parhad Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol am gyfnod o bum mlynedd o 2011 i 2016 i ddilyn yr agenda a draethir yn yr adroddiad o dan y teitl “ Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru” a ddyddiwyd Mehefin 2010;
- (b) yn gofyn am adolygu’r sefyllfa yn 2016.
- Bil i Ddiwygio Darpariaeth Amodau Gwaith Deiliaid Swyddi Eglwysig yn yr Eglwys yng Nghymru
-
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol yn pwyllgora:
- (a) Cyfnod Pwyllgora
- (b) (b) Adroddiad a Phleidlais
- Bil i Ddiwygio Pennod IX Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru
-
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol yn pwyllgora:
- (a) Cyfnod Pwyllgora
- (b) (b) Adroddiad a Phleidlais
- Esgobaeth archesgobaethol – Adroddiad Mainc yr Esgobion
- Adroddiad Blynyddol y Gymdeithas Gweddwon, Plant Amddifaid a Dibynyddion
-
Cynnig: Bod y Corff Llywodraethol yn cymryd sylw o’r Adroddiad hwn.
- Adroddiad Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin
-
Cynnig: Derbyn Adroddiad Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin.
- Rhwydwaith Rhyngwladol y Teulu Anglicanaidd – Cyflwyniad
- Dyddiad a Lleoliad y Cyfarfod Nesaf
-
Penderfynodd y Corff Llywodraethol y cynhelir y Cyfarfod Cyffredin nesaf ar 27 a 28 Ebrill 2011 ym Mhrifysgol Abertawe.

